Y Gyfraith yn ein Llên
About this book
Astudiaeth banoramig a thematig a geir yma sy'n bwrw golwg ar y traddodiad llenyddol Cymraeg yn ei ymwneud â'r gyfraith. Cyflwynir y traddodiad barddol a llenyddol o ddelweddu'r gyfraith, o Daliesin Ben Beirdd hyd at ein dyddiau ni. Gyda hynny, amlygir y traddodiad llenyddol a'i gynnyrch fel ffynonellau sydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o'r gyfraith a'i dylanwad mewn cymdeithas – a chymdeithas yng Nghymru yn benodol. Gan fabwysiadu strwythur cronolegol yn bennaf, rhoddir dadansoddiad o'r ymateb llenyddol i gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru mewn cyfnodau penodol yn ei hanes. Prif ddiddordeb y gyfrol yw'r cyfeiriadau cyfreithiol mewn cynnyrch llenyddol o fewn cyd-destun astudiaeth hanesyddol a chyfreithiol, a'r nod yw gwerthfawrogi llenyddiaeth fel cyfrwng i fynegi syniadau neu i ymateb i ffenomenau cyfreithiol. Dyma'r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o'r maes ymddangos, ac y mae'n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Frequently asked questions
- Essential is ideal for learners and professionals who enjoy exploring a wide range of subjects. Access the Essential Library with 800,000+ trusted titles and best-sellers across business, personal growth, and the humanities. Includes unlimited reading time and Standard Read Aloud voice.
- Complete: Perfect for advanced learners and researchers needing full, unrestricted access. Unlock 1.4M+ books across hundreds of subjects, including academic and specialized titles. The Complete Plan also includes advanced features like Premium Read Aloud and Research Assistant.
Please note we cannot support devices running on iOS 13 and Android 7 or earlier. Learn more about using the app.
Information
Table of contents
- Front Cover
- Tudalen hanner teitl
- Tudalen Deitl
- Tudalen Hawlfraint
- Geirnod (not Ymroddiad Tudalen)
- Cynnwys
- Bywgraffiad
- Rhagair
- Byrfoddau
- 1. ‘Nes na’r hanesydd . . .’: Adnabod y Genre
- 2. ‘Cymhenraith gyfraith’: Cyfraith a Phencerdd yn Oes y Tywysogion
- 3. ‘Sesar dadlau a sesiwn’: Beirdd yr Uchelwyr a’r Gyfraith
- 4. ‘Yn gyfrwys yn y gyfraith’: y Llysoedd yn Llên y Dyneiddwyr
- 5. ‘Rhostiwch y cyfreithwyr’: Gweledigaethau o’r Farn
- 6. ‘Rhag Gwŷr y Gyfraith gas’: y Gyfraith mewn Baled ac Anterliwt
- 7. ‘Hen gyfraith bengam’: y Gyfraith yng Ngweithiau’r Radicaliaid
- 8. ‘Aur ben cyfreithwyr y byd’: Rhwng Radicaliaeth a Chenedlaetholdeb
- 9. ‘Yn erbyn arglwydd, gwlad a deddf’: Llên, Cyfraith a Phrotest
- 10. Crynhoi
- Llyfryddiaeth
- Mynegai
- Backcover
